Darperir cyngor i ddefnyddwyr gan sy’n cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, ar faterion defnyddwyr. Mae’r wefan yn darparu llawer o wybodaeth ynghylch eich hawliau a sut i weithredu.
Gallwch gael cyngor ar:-
- nwyddau sy’n ddiffygiol, heb ateb y diben, neu wedi eu disgrifio’n anghywir
- gwasanaethau na chawsant eu cyflawni â gofal rhesymol ac o fewn amser rhesymol neu am bris derbyniol
- beth i’w wneud os ydych yn credu i chi gael eich twyllo
Os nad yw’r wefan yn rhoi ateb i’ch problem, gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0808 223 1144 neu drwy
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar Orchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 ar wefan
Mae llinell gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Safonau Masnach yr Awdurdod Lleol drwy ddarparu cyngor lefel cyntaf a gwybodaeth ar faterion defnyddwyr. Hysbysir Safonau Masnach o gwynion oddi wrth ddefnyddwyr a masnachwyr ym Mlaenau Gwent a byddant yn cysylltu â chi os credant fod ymchwiliad neu weithredu pellach yn angenrheidiol.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr ar y rhybuddion bwyd a’r galwadau cynnyrch yn ôl diweddaraf.
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Safonau Masnach
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad e-bost: trading.standards@blaenau-gwent.gov.uk