¹û¶³´«Ã½app

Gwneud Adroddiad am Sbwriel

Beth yw Sbwriel?

Mae sbwriel yn wastraff nad yw pobl wedi cael gwared ag ef yn iawn tebyg i

  • Stympiau sigarét
  • Pecynnau bwyd cyflym a phapur lapio gwag
  • Poteli a chaniau
  • Papur a cardfwrdd
  • Sbwriel cyffuriau
  • Gwydr

Mae sbwriel yn gwneud i Flaenau Gwent edrych yn anniben ac yn llygru ein hardal leol. Mae’n difetha’r amgylchedd, yn peryglu ein bywyd gwyllt ac yn ddrud i drethdalwyr.

Ydych chi wedi gweld sbwriel wedi crynhoi?



Dirwyon Sbwriel

Bydd Swyddogion Gorfodaeth yn rhoi hysbysiad cosb sefydlog o £125 i chi os cewch eich gweld yn taflu sbwriel.

Derbynnir taliad fel sy’n dilyn:

  • Ffonio C2BG ar 01495 311556
  • Siec/archeb post at Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6AA
  • Trosglwyddiad Banc i:

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Rhif Cyfrif: 60363324

Cod Didoli: 20-56-64

Cyfeirnod: rhif hysbysiad cosb sefydlog

Ìý

Mae gennych 14 diwrnod i dalu’r hysbysiad cosb sefydlog. Bydd y ddirwy hon yn gostwng i £100 os ydych yn talu o fewn y cyfnod hwn. Os nad ydych yn talu, cymerir camau pellach yn eich erbyn drwy’r Llys Ynadon.

Ni fedrwch apelio yn erbyn Hysbysiad Cosb Sefydlog. Os ydych yn anghytuno, dylech fynychu llys a bydd Ynad yn penderfynu os cafodd ei gyhoeddi’n gywir.