Am yr ardal
Unwaith yn bwerdy diwydiant trwm, mae Blaenau Gwent heddiw yn fodern, gwyrdd ac economaidd uchelgeisiol. Mae’r ardal wedi manteisio o fuddsoddiad adfywio enfawr mewn blynyddoedd diweddar a, gyda mwy i edrych ymlaen ato, yn mwynhau cyfnod o drawsnewid cyffrous.
Mae Blaenau Gwent yng Nghymoedd De Cymru ar gyrion Bannau Brycheiniog, ac yn fan treftadaeth a newid mawr gyda’i lygaid yn bendant ar y dyfodol. Mae 20 milltir i’r gogledd o Gasnewydd a 30 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd, ac mae yng nghornel ogledd-orllewinol Gwent ym mlaenau cymoedd Sirhywi, Ebwy a Clydach. Mae Blaenau Gwent yn ardal o dirluniau gwahanol gyda mynyddoedd a bryniau garw yn edrych yn heddychlon dros gymunedau’r cymoedd?
Mae gan y Fwrdeistref Sirol arwynebedd o tua 10,900 hectar gydag amcangyfrif poblogaeth o 66,900 (fel yn 2021) gyda’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn nhrefi Abertyleri, Brynmawr, Glynebwy, Tredegar, Nantyglo a Blaenau. Mae Blaenau Gwent bob amser wedi bod ag ymdeimlad cryf o gymuned ac mae’n ymfalchïo yn ei hanes diwydiannol a chymdeithasol.
Gweledigaeth y Cyngor yw “Treftadaeth Falch – Cymunedau Cryf – Dyfodol Disgleiriach”.