Pan fydd pobl yn gofyn i ni am ein cenedligrwydd, mae’r mwyafrif ohonom yn dweud ein bod yn Gymry. Lleiafrif o bobl Cymru sy’n siarad Cymraeg ond mae llawer yn dweud y byddent yn hoffi ei siarad ond gall gymryd mwy o amser i chi ddysgu iaith arall pan fyddwch yn hŷn.
Gall plant ddysgu iaith yn llawer cyflymach nag oedolion. Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb. Mae dewis addysg Gymraeg yn rhoi cyfle i’ch plentyn ddod yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i dwf y Gymraeg a’i nod yw sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. I gefnogi hyn, maent wedi darparu cyllid drwy grantiau i gynghorau i roi mynediad i addysg Gymraeg.
Bwriad y llyfryn hwn yw ateb cwestiynau, mynd i’r afael â phyderon a nodi’r manteision sy’n gysylltiedig â bod yn ddwyieithog.
Mae’r llyfr hefyd yn dangos llwybrau clir ar gyfer eich plenty drwy’r blynyddoedd ysgol, o’r dosbarth meithrin, i’r ysgol gynradd, yr ysgol uwchradd a thu hwnt.