Ìý Ìý ÌýÌýÌý
Ìý
Mae Tîm Trawsnewid Addysg y Cyngor yn cyflwyno rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (gynt Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif) a’r Rhaglen Cyfalaf Addysg. Mae mwy o wybodaeth ar y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ar gael yn:
Mae’r Rhaglen yn edrych ar y buddsoddiadau cyfalaf hirdymor a strategol sydd eu hangen i greu cymunedau addysgol sy’n addas i’r diben yng Nghymru yr 21ain Ganrif a hefyd yn canolbwyntio adnoddau ar yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir, ar gyfer plant a phobl ifanc o’r blynyddoedd cynnar hyd at ôl-16.
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wella adeiladau ein hysgolion. Dan raglen Band B, gallwn gyflwyno achosion busnes i sicrhau cyllid ar gyfer Addysg i ddatblygu amgylcheddau dysgu newydd a gwell. Mae cyfraddau ymyriad cyllid yn gyfartal â chyfraniad o 35% gan y Cyngor a 65% gan Lywodraeth Cymru.
Amcan cyntaf Buddsoddiad – darparu seilwaith addysgol effeithiol ac effeithlon fydd yn ateb y galw cyfredol a’r dyfodol am leoedd erbyn 2024.
- Caiff costau ôl-groniad cynnal a chadw ar gyfer yr ysgolion a’r colegau a ddetholwyd ar gyfer Band B eu gostwng gan o leiaf 50% (yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd tua 50% o’r prosiectau yn y Rhaglen yn cymryd lle asedau presennol)
- Dim adeiladau categori D yn y stad
- 25% o adeiladau cyflwr Categori C yn cael eu gwella i Gategori A neu B
- Rhoi’r nifer gywir o leoedd ar gyfer cyflenwi:
- Addysg cyfrwng Cymraeg
- Addysg cyfrwng Saesneg
- Cyfarch materion digonolrwydd lle’n berthnasol.
- Gweithio tuag at adeiladau sector cyhoeddus sero net yn unol ag ymrwymiadau gostwng carbon Llywodraeth Cymru.
Ìý
Ail amcan Buddsoddiad – gwneud y defnydd gorau posibl o seilwaith ac adnoddau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ein cymunedau erbyn 2024. Bydd hyn yn cynnwys hyblygrwydd ein hasedau er mwyn cynyddu hyd yr eithaf y defnydd o ofod a chyfleusterau sydd ar gael ar gyfer ein rhanddeiliaid.
- Ein nod yw i bob cyfleuster sy’n derbyn buddsoddiad ymrwymo i wneud asedau ar gael ar gyfer defnydd y gymuned yn cynnwys (ond nid yn unig) fynediad i wasanaethau cymorth a rhaglenni sy’n hyrwyddo cadernid y gymuned a chyfrannu at daclo tlodi os oes galw lleol yn bodoli.
- 10% o’r ysgolion/colegau sy’n derbyn cyllid gan y Rhaglen yn cynnig gwasanaethau cyhoeddus ar yr un lleoliad os oes galw lleol yn bodoli.
Roedd Rhaglen Band A Llywodraeth Cymru yn rhedeg rhwng 2011 a 2019 ac yn y cyfnod hwnnw cwblhaodd Blaenau Gwent bedwar prosiect, a chawsant i gyd eu cyflenwi ar amser ac o fewn cyllideb.
- Prosiect ailwampio Ysgol Gyfun Tredegar (cliciwch ar y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth)
- Cymuned Ddysgu 3-16 Abertyleri – Adeilad newydd Campws Cynradd Stryd Tyleri (cliciwch ar y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth)
- Cymuned Ddysgu 3-16 Abertyleri – Adeilad newydd Campws Cynradd Six Bells (cliciwch ar y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth)
- Prosiect ailwampio Ysgol Gynradd Ystruth (cliciwch ar y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth)
Ìý
Dechreuodd Rhaglen Band B ym mis Ebrill 2019 a daw i ben yn 2025. Bydd y Rhaglen yn sicrhau buddsoddiad o £19.6 miliwn drwy stad ysgolion Blaenau Gwent. Cyfradd ymyriad Llywodraeth Cymru ar gyfer Band B yw rhaniad o 65%/35% o blaid awdurdodau lleol.
Ìý
Ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y bydd angen i bob adeilad ysgol a choleg newydd a phrosiectau ailwampio ac estyniad sylweddol gyrraedd targedau Carbon Sero Net o 1 Ionawr 2022. Mae Rhaglen Band B yn anelu i gyflawni’r prosiectau allweddol dilynol yn unol gyda’r amcanion buddsoddi:
Ìý
- Ailddatblygu Ysgolion Cynradd Ebwy Fawr
- Adeilad Newydd Ysgol Gynradd Glyncoed (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
- Ailwampio Ysgol Gynradd Rhos y Fedwen (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
- Ailwampio Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
- Ailwampio Ysgol Gynradd Cwm (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
Ìý
- Parhau i Ailwampio Ysgolion Uwchradd o fewn yr ysgolion blaenoriaeth dilynol:
- Campws Uwchradd Cymuned Ddysgu Abertyleri (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
- Ysgol Sylfaen Brynmawr (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
- Canolfan Ddysgu Canolfan yr Afon (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
- Ysgol Gyfun Tredegar (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
Ìý
- Ailwampio Ysgol Gymraeg Bro Helyg (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
Ìý
Ìý
Sut y caiff gwaith adeiladu ei reoli
Caiff cyflenwi lleol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ei benderfynu gan Raglen Amlinellol Strategol y Cyngor, yn unol â chyflawni amcanion addysgol allweddol yn cynnwys gwella safonau addysg o fewn Blaenau Gwent.
Ìý
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Trawsnewid Addysg drwy’r cyfeiriad e-bost dilynol:Ìý21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.ukÌý
Polisi Trefniadaeth Ysgolion a Safonau Addysgol Blaenau Gwent
Mae’r Cyngor yn parhau i fod yn ymroddedig i ddarparu addysg ansawdd uchel ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Gwnaed cynnydd i godi safonau addysgol; fodd bynnag y nod yw gwella deilliannau a llesiant disgyblion yn barhaus ar draws y fwrdeistref sirol. Mae felly’n rhan o Raglen Amlinellol Strategol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy y Cyngor (gynt Ysgolion aÌý Cholegau yr 21ain Ganrif) fod angen adolygiad strategol o’r stad ysgolion i drawsnewid safonau addysg.
Ìý
Y weledigaeth yw gwella cyrhaeddiad, cyflawniad a llesiant disgyblion drwy drawsnewid ysgolion ac amgylcheddau dysgu i gyrraedd disgwyliadau modern Ysgolion yr 21ain Ganrif a hefyd sicrhau a chynnal cyflenwi addysg ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl ar draws ystodau oedran 3-16, wedi ei seilio ar ddau amcan:
- bod yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau o fewn y teulu o awdurdodau lleol (Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf) erbyn 2017/2018; a
- rhagori ar gyfartaledd Cymru ar gyfer pob dangosydd allweddol erbyn 2018,.
Ìý
Mae Polisi Trefniadaeth Ysgolion Blaenau Gwent yn rhoi cyfeiriad strategol ar gyfer trawsnewid ac adolygiad parhaus ar y stad ysgolion o fewn Blaenau Gwent. I gael mwy o fanylion ewch i:
Gwybodaeth Cyswllt
Enw’r Tîm:ÌýTîm Trawsnewid Addysg
Rhif Ffôn: 01495 355470 /355132
Cyfeiriad: Cyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8, Llys Einion, Stryd yr Eglwys, Abertyleri, ÌýNP13 1DB
Cyfeiriad E-bost:Ìý21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk
Ìý