¹û¶³´«Ã½app

Apeliadau Derbyniadau

Beth sy’n digwydd os yw’ch plentyn yn cael gwrthod lle?

Yn y mwyafrif o achosion mae plant yn cael cynnig lle yn yr ysgol o’u dewis cyntaf. Os nad yw’ch plentyn yn cael eu derbyn yn y dewis cyntaf, bydd angen i chi benderfynu a ydych yn fodlon derbyn lle a gynigir mewn ysgol wahanol, neu a ydych eisiau apelio’r penderfyniad mewn Panel Apêl Annibynnol. Bydd y panel hwn yn penderfynu a yw’r ysgol yn llawn ac, os mai dyna’r sefyllfa, a yw cais y rhieni’n ddigon cryf y dylid cynnig lle i’r plentyn. 

Sut i apelio

Gallwch wneud apêl ffurfiol yn erbyn y penderfyniad, a rhaid derbyn hon o fewn 10 niwrnod calendr ar ôl i chi dderbyn hysbysiad o’r penderfyniad i beidio â derbyn eich plentyn yn yr ysgol o’ch dewis. Bydd yr apêl yn cael ei chlywed gan Banel Apêl Annibynnol a fydd yn gosod amser a lle ar gyfer y gwrandawiad. Bydd y panel yn rhoi cyfle i rieni ymddangos a chyflwyno’u hachos (ar lafar a/neu’n ysgrifenedig).  Cynghorir rhieni bod asiantaethau megis SNAP ac ACE ar gael i ddarparu cyngor ar gyflwyno apeliadau.

Cynghorir rhieni:

  1. Eu bod yn gallu dewis peidio â mynychu’r cyfarfod apêl ac, yn hytrach, caniatáu i’r apêl gael ei hystyried yn seiliedig ar ddatganiad ysgrifenedig.
  2. Bydd yr apêl yn cael ei phenderfynu yn seiliedig ar y wybodaeth ar gael os, ar ôl methu rhoi esboniad rhesymol, nid ydynt yn ymddangos.
  3. Byddant yn cael o leiaf 10 diwrnod (o’r diwrnod postio) o rybudd ysgrifenedig o gyfarfod y Panel Apêl
  4. Mae croeso iddynt ddod gyda ffrind, neu gael cynrychiolaeth cyfreithiwr.

Dogfennau Cysylltiedig

Derbyniadau i Ysgolion

Rhif ffôn: (01495) 369502 / (01495) 369524. Sylwch, bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen i chi siarad â rhywun y tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk i ofyn am alwad yn ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, Blaenau Gwent, NP23 6DN