¹û¶³´«Ã½app

Hyfforddi / Gwirfoddoli

Hyfforddiant

Mae ein Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a chyrsiau achrededig i bobl ifanc, gan gwmpasu ystod eang o bynciau a lefelau.

Trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Coleg Cymunedol YMCA Cymru, Youth Cymru ac Agored Cymru, rydym yn gallu darparu’r cyrsiau canlynol:   

  • Cymhwyster Datblygiad Personol a Chymdeithasol ASDAN – unedau amrywiol ar Lefel Mynediad a Lefel 1 a 2
  • Dros 100 o unedau (ACUs) ar wahanol lefelau, yn ymwneud yn bennaf ag Iechyd a Lles Emosiynol, Datblyguad Personol a Hyfforddiant Iechyd Rhywiol
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Gwaith Ieuenctid (Cymhwyster)
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid (Cymhwyster)
  • Goruchwyliaeth yng Nghyd-destun Gwaith Ieuenctid
  • Hyfforddiant Arwain Grŵp Iau
  • Cyfleoedd Dwyieithog (Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg)
  • Hyfforddiant Diogelu / Amddiffyn Plant
  • Gwobrau Cyflawniad Ieuenctid ASDAN
  • Gwobr Dug Caeredin (Gwobrau Efydd, Arian ac Aur) 

Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o’r cyrsiau hyn, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â: 

Gwirfoddoli

“Eich helpu chi i helpu eraillâ€

P’un a hoffech chi gael profiadau newydd a fydd yn eich helpu i gael gwaith neu hyfforddiant, neu hoffech chi wneud gwahaniaeth a helpu yn eich cymuned, mae gwirfoddoli’n ffordd wych o ddefnyddio’ch amser sbâr.

Gall gwirfoddoli wneud y canlynol:

  • Rhoi hwb i’ch hyder
  • Eich helpu i ddysgu sgiliau newydd
  • Eich galluogi i gael blas ar wahanol feysydd gwaith
  • Ennill profiad gwerthfawr ar gyfer eich CV
  • Gwneud rhywbeth gwerth chweil gyda’ch amser sbâr
  • Gwneud ffrindiau newydd
  • Cymryd rhan yn eich cymuned

Gwybodaeth Gyswllt

Stephanie Watkins

Cyfeiriad e-bost: Stephanie.Watkins@blaenau-gwent.gov.uk