Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc ac effaith gref ar ddeilliannau, safonau a chynnydd dysgwyr. O fewn hyn, mae presenoldeb rheolaidd yn cefnogi datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd, ar ar y ddealltwriaeth gysyniadol sydd ei angen ar gyfer astudiaeth bellach a llwyddiant yn y gweithle. Dengys dadansoddiad fod cysylltiad cryf rhwng canlyniadau arholiadau Ìýâ chyfraddau presenoldeb, er enghraifft lle gall cynnydd bach mewn absenoldeb ostwng deilliannau. Gall colli gwersi olygu colli gwybodaeth, sgiliau a syniadau allweddol. Mae gan bresenoldeb da effaith gadarnhaol ar lesiant emosiynol a chorfforol.
Mae sefydlu patrymau presenoldeb da o oedran cynnar yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol. Er enghraifft, po fwyaf o amser mae plentyn yn ei dreulio gyda phlant eraill yn yr ystafell ddosbarth ac fel rhan o weithgareddau ehangach a drefnir gan ysgolion, y mwyaf o gyfle sydd ganddynt o wneud ffrindiau, o deimlo eu bod yn cael eu cynnwys ac o ddatblygu sgiliau cymdeithasol, hyder a hunanbarch. I’r gwrthwyneb, mae absenoldeb estynedig o ysgol yn gysylltiedig gyda phroblemau ymddygiadol a chymdeithasol. Gall yr effeithiau hyn fod yn faith a gallant effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc a’u cyfleoedd bywyd hirdymor. Gall absenoldebau ddechrau cylch negyddol, lle mae dysgwyr yn dechrau bod yn absennol am resymau tebyg i fwlio neu beidio ymdopi gyda gwaith ysgol., gydag absenoldeb hir ond yn debyg o wneud y sefyllfa yn anos ei datrys. Ystyrir fod y rhyng-berthynas rhwng presenoldeb a llesiant mor gryf fel y caiff presenoldeb yn aml ei ystyried yn fesur dirprwy dros lesiant dysgwyr. Mae mynychu ysgol hefyd yn cefnogi datblygiad ehangach dysgwyr fel aelodau llawn a chrwn o gymdeithas.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn seiliedig ar bedwar diben sy’n arddangos lled y buddion academaidd, llesiant a chymdeithasol y mae dysgwyr yn eu hennill drwy fynychu ysgol. Oherwydd y cysylltiadau amlwg rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad, llesiant a dinasyddiaeth, bu gwella presenoldeb ers amser maith yn nod polisi pwysig ar gyfer llywodraethau, awdurdodau lleol ac ysgolion unigol.
Yn rhyngwladol, mae manteision addysg o’r fath fel bod yr hawl i ystod cynhwysfawr o addysg a chyfleoedd dysgu yn un o saith nod creiddiol Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Dylai pob dysgwr a’u rhieni gael eu hysbysu pwy y gallant siarad gyda nhw os ydynt yn anhapus yn yr ysgol, a dylid eu hannog i wneud hynny cyn gynted ag sy’n bosibl i atal pethau rhag gwaethygu. Mae nifer o faterion a all fod yn atal dysgwyr rhag mynychu lleoliad prif ffrwd, tebyg i iechyd meddwl neu heriau ymddygiad, ac mewn rhai achosion trefniadau eraill tebyg hyfforddiant cartref awdurdodau lleol neu fynychu Uned Cyfeirio Disgyblion fod yn briodol. Ond fel arfer dim ond mesur tymor byr y dylai trefniadau o’r fath fod ac ar gyfer mwyafrif helaeth dysgwyr, y nod hirdymor ddylai fod i ddychwelyd dysgwyr i’w man addysg arferol cyn gynted ag sy’n ymarferol. Bu’n hysbys ers amser maith fod ffactorau tebyg i dlodi, anghenion dysgu ychwanegol a rhai nodweddion gwarchodedig yn gysylltiedig gyda dysgwyr yn cael mwy o risg o absenoldeb o’r ysgol a gwaethygu’r heriau maent eisoes yn eu hwynebu. Felly mae hyrwyddo presenoldeb da yn neilltuol o bwysig yn yr achosion hyn. Mae mynychu’r ysgol hefyd yn hanfodol o safbwynt diogelu, gan sicrhau fod plant yn cael eu gweld, eu bod yn ddiogel ac y cânt eu clywed, a dim yn cael eu ecsbloetio. Mae gweithredu dilynol ar absenoldeb yn elfen bwysig yn eu gofal a’u hamddiffyn. Dyma un o’r prif resymau pam fod cofnodi a monitro presenoldeb yn gywir mor bwysig.
Nid yw deddfwriaeth yn gosod unrhyw lefel ofynnol o bresenoldeb. Yn draddodiadol, mae presenoldeb da yn dibynnu ar amgylchiadau, ond fel arfer cymerir ei fod tua 99%.
Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu ei chanllawiau ar wella presenoldeb yn yr ysgol yn ddiweddar ac mae’r ddolen isod:
ÌýÌý
Ìý
Gwasanaeth Lles Addysg
Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg ym Mlaenau Gwent yn gyfrifol am sicrhau fod rhieni yn cyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i sicrhau fod eu plant yn derbyn addysg addas.
Mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am:
- presenoldeb yn yr ysgol
- gwaharddiad o ysgol
- protocol ar ddisgyblion anodd eu lleoli
- cyflogaeth plant
- plant mewn adloniant
- plant sy’n colli addysg
- addysg ddewisol yn y cartref
Ìý
Y manylion cyswllt yw:
Gwasanaeth Lles Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
Blaenau Gwent
NP13 1SF
¹ó´Úô²Ô: 01495 311556
E-bost: educationwelfareservice@blaenau-gwent.gov.uk
ÌýAtgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Lles Addysg
Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn derbyn atgyfeiriadau yn unol â’r meini prawf ar atgyfeirio ar y ddealltwriaeth fod yn rhaid i’r atgyfeiriad gael ei drafod gyda’r rhiant/gofalwr (a myfyrwyr lle’n briodol).
ÌýOs na chafodd unrhyw gyswllt ei wneud gyda’r oedolyn cyfrifol, rhowch y rhesymau yn y rhannau priodol. dylai’r ysgol fod wedi cymryd rhai camau i unioni’r sefyllfa cyn unrhyw gais.
Bydd angen y dilynol cyn dechrau’r ffurflen hon:Ìý
- Copïau o lythyrau a anfonwyd at gartref y plentyn
- Manylion sgyrsiau o alwadau ffôn a chyfarfodydd
- Tystysgrif presenoldeb
Mwy o wybodaeth am ein swyddogion lles addysg fydd yn cysylltu â chi os caiff eich plentyn ei atgyfeirio fel bod yn colli ysgol.
Cyfrifoldebau swyddogion
Mae gan ein swyddogion lles addysg gyfrifoldeb cyfreithiol am fonitro presenoldeb ysgol ac i gymryd camau gweithredu mewn llys yn erbyn rhieni y mae eu plant yn methu mynychu ysgol yn rheolaidd.
Cyfrifoldebau rhieni
Fel rhiant, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol dros sicrhau fod eich plentyn yn derbyn addysg addas. Gallwch wneud hyn drwy gofrestru eich plentyn yn yr ysgol a sicrhau ei fod/bod yn mynychu’r ysgol honno’n rheolaidd. Os dewiswch roi addysg yn y cartref ar gyfer eich plentyn, mae’n rhaid i ni gael ein bodloni fod yr addysg y mae’r plant yn ei derbyn yn y cartref yn addas.
Gallwch helpu i sicrhau fod eich plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd drwy:
- annog eich plant i fynychu’r ysgol yn rheolaidd ac ar amser
- cymryd diddordeb yn addysg a bywyd eich plentyn yn yr ysgol
- cyfathrebu gydag ysgol eich plentyn i drafod unrhyw faterion neu broblemau sy’n dod i’r amlwg
- hysbysu ysgol eich plentyn ar ddiwrnod cyntaf unrhyw absenoldeb
- peidio trefnu unrhyw wyliau teuluol yn ystod y tymor
- peidio trefnu unrhyw apwyntiadau meddygol yn ystod y diwrnod ysgol
Ìý
Sut mae ein swyddogion lles addysg yn gweithio
Gall ysgolion atgyfeirio plant nad ydynt yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd at swyddog lles addysg. Gallwch hefyd gysylltu â֗ swyddog lles addysg yn uniongyrchol. Gall asiantaethau eraill fel iechyd, gofal cymdeithasol a’r heddlu hefyd atgyfeirio plant.
Os caiff eich plentyn ei atgyfeirio am beidio mynychu, bydd swyddog lles addysg yn cysylltu â chi ac yn trefnu cwrdd. Bydd y swyddog yn eich atgoffa eich bod yn gyfreithiol gyfrifol am sicrhau fod eich plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn eich cynghori, os nad yw presenoldeb eich plentyn yn gwella, y gallwch gael eich erlyn mewn llys ynadon, lle gallwch gael eich dirwyo, neu mewn rhai amgylchiadau, eich carcharu. Bydd y swyddog lles addysg, wrth gwrs, eisiau osgoi hyn a bydd yn cynnig gweithio gyda chi, gan gynnig cefnogaeth a chyngor a all helpu i ddychwelyd eich plentyn i fynychu’n rheolaidd.
Fel arfer bydd y swyddog lles addysg yn rhoi uchafswm o 12 wythnos i chi i wella presenoldeb ysgol eich plentyn. Os na chafodd hyn ei gyflawni ar ôl 12 wythnos ac os nad oes amgylchiadau lliniarol eithriadol, bydd y swyddog yn eich hysbysu y cafodd gŵys i chi ymddangos yn y llys ei chyhoeddi.
Gwella presenoldeb plentyn
Bydd Swyddogion Lles Addysg yn gweithio gyda chi a’ch plant i ddynodi ffyrdd o wella presenoldeb yn yr ysgol. Gallant awgrymu:
- cyfarfodydd yn yr ysgol
- strategaethau a fedrai eich cefnogi chi a’ch plentyn
- atgyfeiriadau i wasanaethau eraill
Bydd swyddogion yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda chi ac yn cadw cofnodion ysgrifenedig o’r hyn a gafodd ei drafod a’i gytuno. Byddant yn disgwyl i chi gytuno ar dargedau ar gyfer gwella ac yn adolygu cynnydd.
Byddant hefyd yn cadw mewn cysylltiad gydag ysgol eich plentyn.
Gweithredu mewn llys
Os nad yw presenoldeb eich plentyn yn gwella ar ôl 12 wythnos ac nad oes unrhyw amgylchiadau lliniarol eithriadol, bydd swyddog presenolddeb yr ysgol yn dechrau gweithredu cyfreithiol yn eich erbyn. Os y ceir chi’n euog mewn llys, gallwch gael dirwy o hyd at £1,000. Mewn rhai amgylchiadau, os ydych yn wybyddus wedi gadael i’ch plentyn fod yn absennol o’r ysgol, gallwch gael dirwy o hyd at £2,500 neu hyd yn oed gael eich anfon i’r carchar am 3 mis.
Dychwelyd plentyn i bresenoldeb rheolaidd
Gobeithio, gellir osgoi’r angen am weithredu mewn llys a drwy gydweithio gyda chi, eich plant ac ysgolion, gall swyddogion helpu i ddychwelyd plant i bresenoldeb rheolaidd. Mae hyn yn hanfodol os yw plant i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt.
Cyswllt
Os hoffech i swyddog lles addysg gysylltu â chi, anfonwch e-bost at Ìýeducationwelfareservice@blaenau-gwent.gov.uk
Ffurflen Atgyfeirio y Gwasanaeth Lles Addysg.
Pryd mae’n rhaid hysbysu awdurdod lleol am absenoldeb disgybl
Mae’r term ‘ysgol’ yn golygu y rhai a gaiff eu cynnal gan yr awdurdodau lleol, ysgolion rhydd, ysgolion annibynnol a darparwyr addysg amgen,.
Yr hyn sydd angen i bob ysgol wneud pan nad yw disgybl wedi mynychu’n barhaus am naill ai 10 diwrnod ysgol pan mae absenoldeb heb ei awdurdodi neu 15 diwrnod ysgol neu fwy os yw’r absenoldeb naill ai wedi ei awdurdodi neu heb ei awdurdodi.
Mae Ìýyn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud addysg amgen addas ar gael ar gyfer plant o oedran ysgol statudol na all fynychu’r ysgol oherwydd salwch, gwaharddiad neu unrhyw reswm arall (fel arall).
Gwaharddiad
O fewn ein awdurdod lleol caiff darpariaeth addysg ar gyfer disgyblion a gafodd eu gwahardd yn barhaol ei benderfynu gan y Panel Dysgwyr Bregus.
Salwch
Mae ein gwasanaeth a gomisiynwyd yn darparu addysgu ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc o oedran ysgol statudol sydd ar gofrestr ysgol sydd oherwydd salwch angen trefniadau eraill addas ar gyfer eu haddysg tra’u bod yn wael.
Gweler hefyd
Ìý
Fel arall
Mae gan ysgolion gyfrifoldeb cyfreithiol dan Reoliad 12 ‘Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010’ (dolen uchod) i’n hysbysu pan fu disgybl yn absennol am 10 neu fwy o sesiynau parhaus o absenoldeb heb awdurdod.
Mae Adran 19 Deddf Addysg 1996 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni asesu, lle bu disgybl yn absennol. am gyfnod parhaus o 15 diwrnod ysgol (wedi ei awdurdodi neu heb ei awdurdodi), os oes angen i ni gamu mewn a darparu addysg ein hunain.
Pan gawn hysbysiad gan ysgol, byddwn yn asesu os yw’r plentyn yn cyflawni’r meini prawf ar gyfer i ni gamu mewn a darparu Addysg Adran 19 dan y categori ‘Fel arall’ neu gynghori ysgol ein bod yn gweithredu mewn modd arall. Os ydych wedi cymryd unrhyw un o’r camau dilynol, nid oes angen i chi hysbysu’r awdurdod lleol. Atgyfeiriad i naill ai’r Panel Dysgwyr Bregus, eich Swyddog Lles Addysg (nid cais Hysbysiad Cost) neu wedi gwneud atgyfeiriad Plentyn yn Coil Addysg.
Dim ond os ydym yn asesu nad yw’n bosibl i blentyn dderbyn addysg addysg yn eu hysgol bresennol y byddwn yn darparu addysg dan y categori ‘Fel arall’.
Pan gawn yr hysbysiad, byddwn yn gwirio fod yr ysgol wedi edrych ar bob dull arall rhesymol ar gyfer darparu addysg addas a llawn-amser i’r disgybl. Mae hyn yn debyg o gynnwys dulliau tebyg i newidiadau i’r amserlen lle’n briodol a/neu ddarparu cwricwlwm arall.
Pan mae’n rhaid i ni gamu mewn a chefnogi, mae’n debygol y byddwn yn gofyn i’r ysgol ddarparu’r lefel briodol o gyllid AWPU ar gyfer y cyfnod y buom yn gyfrifol am addysg y disgybl.
Cysylltwch â’ch Swyddog Lles Addysg neu anfon e-bost at
educationwelfareservice@blaenau-gwent.gov.uk os hoffech unrhyw gymorth neu gyngor pellach.
ÌýPresenoldeb yn yr ysgol yn gyfrifoldeb i bawb
ÌýPolisi Presenoldeb Blaenau Gwent
Canllawiau Cynllun Cymorth Bugeiliol
Canllawiau Rhieni ar Erlyniadau