Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
Mae’r setiau sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf, gyda newidiadau enfawr yn ein heconomi byd-eang ac angen dulliau newydd, blaengar i hyfforddi gweithlu’r dyfodol. Wedi’u gyrru yn bennaf gan ddatblygiadau technolegol, mae llawer o swyddi wedi diflannu’n llwyr oherwydd awtomeiddio tra bod rhai newydd yn ymddangos bob dydd. Mae’r ffordd y mae myfyrwyr yn rhyngweithio, dysgu a chysylltu hefyd wedi newid fel bod angen rhaglen newydd o ddysgu i unioni’r fantol.
Mae STEM yn ymagwedd at ddysgu a datblygu sy’n integreiddio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae sgiliau allweddol tebyg i greadigrwydd ac arloesi, meddwl beirniadol a datrys problemau, effeithlonrwydd personol, cynllunio a threfnu ymysg y sgiliau newydd sydd eu hangen i greu gweithlu cystadleuol a all addasu i’r newid yn y gweithle.
Prosiect Hwyluso STEM Blaenau Gwent
Lansiwyd cam peilot Prosiect Hwyluso STEM Blaenau Gwent (BG) yn gynnar yn 2021 tan fis Mawrth 2023 ar gyfer clwstwr ysgolion Ebwy Fawr yn unig. Nod y prosiect oedd sefydlu rhaglen gydlynol o gymorth STEM, yn canolbwyntio ar ddiwydiant ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy fenter y Cymoedd Technoleg.
Mae rhaglen y Cymoedd Technoleg yn creu amgylchedd perffaith ar gyfer y math o ddiwydiannau clyfar, cyflym sy’n newid ein ffordd o fyw a gweithio ac mae wedi’i chanoli yma ym Mlaenau Gwent. Mae ein rhanbarth yn dod yn fagwrfa uwch-dechnoleg ar gyfer datblygu technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch gyda Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £100m dros 10 mlynedd i greu 1,500 a mwy o swyddi. Erbyn 2027 bydd Blaenau Gwent a Chymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd i gefnogi diwydiannau sydd ar flaen y gad. Mae'r Cymoedd Technoleg yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, diwydiant a'r byd academaidd i fuddsoddi yn y seilwaith a'r sgiliau i wneud iddo ddigwydd ac mae llawer o gwmnïau technoleg eisoes wedi gwneud Blaenau Gwent yn gartref iddynt.
Oherwydd llwyddiant cyfnod peilot Prosiect Hwyluso STEM Blaenau Gwent, dyfarnodd y Cymoedd Technoleg gyllid ychwanegol i ymestyn y prosiect i fis Mawrth 2025 ac i ehangu’r cynnig i bob ysgol ar draws Blaenau Gwent. Mae tîm Prosiect Hwyluso STEM BG yn gweithio gydag ysgolion, darparwyr a diwydiant i godi proffil STEM yn y gymuned ehangach a chydag ysgolion i ymgysylltu â dysgwyr er mwyn paratoi pobl ifanc â’r sgiliau y bydd eu hangen yn y maes hwn yn y dyfodol ar gyfer swyddi gwerth uchel, medrus iawn.
Amcanion allweddol:
- Sefydlu a chyflwyno rhaglen gydlynol o gefnogaeth STEM i ysgolion, yn canolbwyntio ar ddiwydiant sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ysgol.
- Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a chynyddu lefelau dyhead a chyrhaeddiad o fewn pynciau STEM.
- Mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng dynion a merched mewn STEM.
- Uwchsgilio a gwella gwybodaeth am sgiliau digidol gydag athrawon a dysgwyr.
- Annog dysgwyr i ddatblygu parodrwydd ar gyfer gwaith STEM trwy ymyriadau busnes / diwydiant lleol.
I gael rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf, gweler ein Padlet Prosiect STEM BG y gellir ei gyrchu drwy’r ddolen hon -