¹û¶³´«Ã½app

Seiclo

Mae seiclo’n weithgaredd gynyddol boblogais gyda nifer o gyfleoedd i’w wneud ym Mlaenau Gwent os mai dyma’ch hoff weithgaredd.

Llwybrau hamdden

Mae Llwybr Genedlaethol 46 a llwybrau 465, 466, 467 a 492 oll yn cysylltu Blaenau Gwent gydag adrannau mawr di-draffig sy’n ddiogel i seiclo gyda’r teulu.

Llwybr Ebwy Fach

Llwybr 16 cilometr yw sy’n pasio trwy 14 man gwyrdd cymunedol. Mae’r llwybr yn archwilio taith y dirwedd o’i wreiddiau amaethyddol, trwy difrodaeth diwydianeiddio yn ôl i dir gwyrdd hardd. Mae’r llwybr yn dilyn afon Ebwy Fach yn amlygu safleoedd treftadaeth a mannau pwysig i fywyd gwyllt, gan gymryd yr ymwelydd ar daith o ddysgu trwy’r cwm.

Beicio Mynydd

Mae’r cymoedd wedi dod yn boblogaidd iawn gyda beicwyr mynydd sy’n edrych am her. Mae gan Parc Bryn Bach nifer o draciau coedwigaeth sengl a chyrsiau heriol sy’n mynd y tu allan i’r lleoliad.

BMX

Y trac BMX o safon genedlaethol ym Mharc Bryn Bach yw’r unig un o’i fath yng Nghymru gyda hyfforddwyr cymwys a fydd yn dangos i chi sut i wneud y mwyaf o’r cylchdaith 400 metr.

Mae’r trac wedi cynnal pencampwriaethau cenedlaethol ac mae ar gael i’w logi’n breifat, at ddefnydd unigol neu ddigwyddiadau clwb. Gellir darparu beiciau a helmedau ar gyfer grwpiau.

Llogi Beiciau

Mae siop feiciau a chyfleuster llogi beiciau ym Mharc Bryn Bach.

Digwyddiadau

Cynhelir ym Mlaenau Gwent bob Gŵyl y Banc mis Awst, dim ond un o nifer o ddigwyddiadau seiclo poblogaidd yn y Cymoedd.

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad:ÌýY Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23ÌýÌý 6DNÌýÌý

Cyfeiriad e-bost:Ìýalyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk

Ìý