TĆ· Ebwy Fach, Heol y Capel, Six Bells, Abertyleri
Cafodd Mervyn Griffiths ei eni yn y Blaenau ar 17 Ionawr 1909, a symudodd y teulu i Six Bells ger Abertyleri bedair blynedd wedyn. Ef oedd yr hynaf o deulu o 4 a 2 ferch.
Dywedir i Mervyn ddilyn ei dad drwy chwarae rygbi ac ni wnaeth erioed chwarae pĂȘl-droed yn yr ysgol. Fodd bynnag, gydaâr bĂȘl gron y byddai Mervyn yn gwneud ei farc.
Yn yr un modd Ăą miloedd o bobl ifanc yn ystod y dirwasgiad ym Mlaenau Gwent yn ystod y 1920au aâr 30au, dechreuodd Mervyn ar yrfa fel athro, yn gyntaf yn Nyfnaint cyn symud yn ĂŽl i Gymru.
Dechreuodd fel dyfarnwr mewn gemau bechgyn ysgol yn 1934 a roedd ar restr dyfarnwyr y Gynghrair BĂȘl-droed yn 1939 ychydig cyn dechrauâr Ail Ryfel Byd. Yn dilyn y rhyfel, erbyn 1948, roedd Mervyn ar y ârhestr ddetholâ o ddyfarnwyr. Yn 1949 oedd yng ngofal ei gĂȘm ryngwladol gyntaf yn Wembley lle cafodd Lloegr eu trechu 3-1 gan yr Alban. Y flwyddyn ddilynol aeth i Brasil ar gyfer ei Gwpan y Byd gyntaf.
Yn 1953 daeth Mervyn Griffiths y Cymro cyntaf i fod yn ddyfarnwr mewn ffeinal Cwpan yr FA â y âFfeinal Stanley Matthewsâ enwog â lle daeth Blackpool o fod 1-3 i lawr yn erbyn Bolton gyda dim ond 10 munud i fynd i ennill y gĂȘm 4-3.
Y flwyddyn wedyn, aeth Mervyn iâr Swistir i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd 1954, Roedd yn ddyfarnwr yn un oâr rowndiau cyn-derfynol lle trechodd Hwngari, y ffefrynnau ar gyfer y teitl, ddeiliaid Cwpan y Byd, Uruguay, 4-2. Yn rownd derfynol Cwpan y Byd yn Berne rhwng Gorllewin yr Almaen a Hwngari, roedd Mervyn yn llumanwr. Yn ĂŽl y disgwyl, roedd Hwngari ar y blaen o 2-0 yn y gĂȘm ond yn groes iâr argoelion, ymladdodd Gorllewin yr Almaen yn ĂŽl i fod ar y blaen o 3-2. Gyda munudau ar ĂŽl, ymddangosai fod Puskas wedi sicrhau gĂȘm gyfartal i Hwngari, cyn i Mervyn ddweud fod y gĂŽl yn annilys. Gorllewin yr Almaen enillodd â âDaeth Puskas ataf ac edrych yn gracâ, meddai Mervyn yn ddiweddarach.
Dywedwyd i âWyrth Berneâ, fel y gwelai yr Almaenwyr hi, hybu ysbryd gwlad oedd yn dioddef ar ĂŽl y rhyfel, gan gyfrannu at adfer Almaen fel economi fwyaf a phwysicaf Ewrop yn dilyn y rhyfel. Diolch i Mervyn Griffiths, wrth gwrs.
Roedd Mervyn yn un o brif ddyfarnwyr ei gyfnod, gyda galw mawr amdano ar gyfer gemau cynghrair a rhyngwladol gan fod yng ngofal 22 gĂȘm ryngwladol a dyfarnu mewn 3 rownd derfynol Cwpan y Byd.
Roedd Mervyn yn adnabyddus am ei atgasedd o deithio. Yn wir, ar gyfer ei Gwpan y Byd gyntaf ym Mrasil yn 1950, gwrthododd hedfan gan fynd yn lle ar hynny ar long a gymerodd 16 diwrnod i deithio o Tilbury i Rio de Janeiro. Y rheswm dros bryder Mervyn oedd bod 3 oâi berthnasau ymysg y 80 o ddilynwyr rygbi a gafodd eu lladd yn namwain awyr Llandow wrth iddynt ddychwelyd o Iwerddon ar ĂŽl gweld tĂźm Cymru yn ennill y Goron Driphlyg ym mis Mawrth 1950 â yr adeg honno y drychineb sifil fwyaf yn hanes hedfan.
Gwaethaâr modd, fe wnaeth trasiedi daro teulu Mervyn wedyn, ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei frawd, Vernon Alexander Griffiths, aâi nai, Clive Alan Griffiths, ill dau eu lladd yn nhrychineb Glofa Six Bells ar 28 Mehefin 1960. Caiff eu henwau eu coffau ar gofeb y âGuardianâ yn Six Bells.
Ddydd Gwener 24 Ionawr 2014 cafodd y Plac Glas i anrhydeddu Mervyn ei ddadorchuddio gan Clive Thomas, dyfarnwr arall o Gymru. Fel Mervyn, roedd Clive yn ddyfarnwr safon byd, a ymddangosodd yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1974 a 1978 a nifer fawr o gemau rhyngwladol ac Ewropeaidd pwysig. Dywedodd Clive, âMaeân anrhydedd fawr cael fy ngwahodd i ddadorchuddioâr plac hwn. Roedd gennyf lawer iawn o barch at Mervyn oherwydd ei fod yn ddyfarnwr llym iawn ac roedd gwybod ei fod ef, Cymru arall, wedi cyrraedd y brig, yn tanio fy uchelgais.
âI fi bydd Rownd Derfynol Cwpan FA 1953 bob amser yn ffeinal Mervyn Griffiths ac nid ffeinal Stanley Matthews gan mai dymaâr tro cyntaf i Gymro fod yn ddyfarnwr yn ffeinal Cwpan yr FA. 17 oed oeddwn i ar y pryd a newydd ddechrau dyfarnu. Fi oedd y dyfarnwr ifancaf yn y gynghrair. Y penwythnos hwnnw roeddwn wedi bod yn ddyfarnwr mewn gĂȘm ym Mhontypridd. Yn ystod y gĂȘm aeth y bĂȘl yn sownd mewn cangen coeden â nid oedd y goeden ar y maes chwarae ond roedd y gangen yn ymestyn drosto. Cafodd chwaraewr ei annog i fynd i gael y bĂȘl yn ĂŽl ond dywedodd ei gyd-chwaraewyr wrtho am beidio mynd neu byddai yn âhand ballâ. I dorri stori hir yn fyr, fe gawsom y bĂȘl yn ĂŽl ac ddechrauâr gĂȘm gyda âdrop ballâ. Â Roedd stori yr wythnos ddilynol yn y âPapur Pincâ (Footall Echo) a gofynnodd gohebydd i Mervyn am ei farn ar y penderfyniad. Dywedodd Mervyn, nid yn unig mai dynaâr penderfyniad cywir ond bod synnwyr cyffredin wedi bod yn drech, fe aiff y dyfarnwr ifanc yma ymhell!â
Hefyd yn bresennol oedd Gerrard Lewis, 88 oed o Bort Talbot, cyn lumanwr oedd wedi cydweithio gyda Mervyn Griffiths.
Cafodd gosod y plac ei ysgogi gan y Cyng Hedley McCarthy, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, gan gydnabod pwysigrwydd dathlu arwyr lleol. Dywedodd âMae unrhyw un y sonnir amdano wrth ochr Stanley Matthews, Stan Mortensen a Ferenc Puskas yn enw mawr. Maeân hen bryd cydnabod hyn ac maeân addas fod y plac yn cael ei ddadorchuddio gan y dyfarnwr arall safon byd o Gymru, Clive Thomas.