Gorsaf Reilffordd Llanhiledd, Abertyleri
Cafodd Ray ei eni ar 30 Awst 1909, yn fab Miles Gunter, gwerthwr ffrwythau ac wedyn ddyn pwmp mewn glofa, a’i wraig Clara Adeline Jones, o 18 Stryd Fawr, Llanhiledd.
Mynychodd Ysgol Abertyleri ac Ysgol Uwchradd Trecelyn a phan oedd yn 14 oed daeth yn glerc archebu gyda rheilffordd y Great Western.
Adeg Cofrestr 1939 roedd yn byw yn Burvale, Commercial Road, gyda’i wraig Elsie a’i fab, David.
Roedd Ray yn aelod o TSSA, Cymdeithas Staff Cyflogedig Trafnidiaeth gan ddod yn Drysorydd yn 1953-56 a Llywydd yn 1956-64.
Cafodd Ray Gunter yrfa hir a chlodwiw yn y Senedd rhwng 1945 a 1972, fel aelod South East Essex 1945-50, Doncaster 1950-51 a Southwark 1959-72. Gwasanaethodd yng Nghabinet nifer o Lywodraethau Llafur, yn fwyaf amlwg dan Harold Wilson yn 1964-68 a Gweinidog Pŵer 1968. Cafodd ei ystyried fel aelod uwch o’r meinciau cefn yn ystod ei flynyddoedd olaf yn y senedd ac ymddeolodd o’r Senedd yn 1972. Bu Ray Gunter farw yn 1977 a chafodd ei gladdu yn Hen Eglwys y Santes Fair ar Ynysoedd Scilly lle’r oedd ganddo gartref.
Ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2013 dadorchuddiodd Paul Murphy, AS Torfaen, blac coffa er anrhydedd Ray Gunter, y cyn AS Llafur ac Aelod Cabinet a anwyd yn Llanhiledd. Cafodd y plac ei osod yng ngorsaf reilffordd y dref i gydnabod ei amser fel Llywydd TSSA. Yn bresennol yn y dadorchuddio roedd Nick Smith AS, Mostyn Lewis Maer Blaenau Gwent a’r Cynghorydd Hedley McCarthy, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent.
Wrth siarad yn y digwyddiad dywedodd Mr Murphy,
“Fel dyn ifanc gyda diddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, clywais am Ray Gunter pan oedd yn aelod o Gabinet Harold Wilson. Beth wnaeth argraff arnaf oedd y gallai rhywun oedd yn dod o’r un rhan o’r byd â fi ac oedd ag acen debyg i fi, anelu i ddod yn aelod o’r Cabinet. Mae’n addas codi cofeb barhaol iddo er anrhydedd i’w gof ac mae’n fraint fawr i fi, fel cyn Aelod Cabinet Llafur fy hunan, i fod yn gysylltiedig gyda’r digwyddiad yma.â€
Ychwanegodd y Cynghorydd McCarthy: “Rwyf wrth fy modd fod gwaith Ray fel AS ac undebwr llafur yn cael ei gydnabod gyda’r gofeb barhaol yma mor agos at y man lle cafodd ei eni.