¹û¶³´«Ã½app

Theatr Fach Tredegar

Mae’r Theatr Fach yn gartref i’r Tredegar Thespian Players, sy’n cyflwyno tair drama y flwyddyn.

Maen nhw’n cwrdd ddwywaith yr wythnos i ymarfer ac yn croesawu aelodau newydd. Mae’r Theatr hefyd yn croesawu nifer o gwmnïau gwadd megis cwmni Grassroots Frank Vickery.

Gellir llogi’r theatr ar gyfer digwyddiadau, mae ganddi offer sain a goleuo gwych, ac mae’n darparu lle perffaith ar gyfer gweithdai, cyflwyniadau, sesiynau hyfforddi a chyngherddau.

Mae ganddi far â thrwydded lawn, a gellir darparu bwffe trwy drefnu ymlaen llaw.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01495 315362 neu contact@littletheatre.wanadoo.co.uk

I fwcio tocynnau sioe, ffoniwch 01495 723755. Mae tocynnau tymor ar gael.

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN  
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk